Session 16: Story

Mae Dafydd yn gweithio i gwmni peirianneg yn Ne Cymru

        Dafydd works for an engineering company in South Wales

Mae ei gwmni yn gwneud pympiau dŵr mawr i`w defnyddio mewn ffatrioedd a systemau cyflenwi dŵr

         His company makes large water pumps for use in factories and water supply systems

Rhai blynyddoedd yn ôl derbynion nhw archeb oddi wrth bwerdy yng Ngwlad yr Iâ

         A few years ago they received an order from a power station in Iceland

Gofynnodd y rheolwr i Dafydd a fyddai`n mynd yno i drafod y dyluniadau gyda`r peirianwyr

         The manager asked Dafydd if he would go there to discuss the designs with the engineers

Roedd Dafydd wrth ei fodd gan ei wastad wedi eisiau ymweld â`r wlad

         Dafydd was delighted because he had always wanted to visit the country

Trefnodd y cwmni hediad ar gyfer Dafydd a gwesty yn Reykjavic

         The company arranged a flight for Dafydd and a hotel in Reykjavic

Cyrhaeddodd Dafydd Wlad yr Iâ a mynd â thacsi i`r gwesty

         Dafydd arrived in Iceland and took a taxi to the hotel

Y peth cyntaf yn ei synnu oedd pa mor golau yr oedd yn yr hwyr

         The first thing that surprised him was how light it was in the evening

Hon oedd yr haf a dim ond am gwpl o oriau yng nghanol y nos y machludodd yr haul

         This was the summer and the sun only set for a couple of hours in the middle of the night

Treuliwyd y diwrnod wedyn mewn cyfarfodydd, a chytunwyd ar y dyluniadau ar gyfer y pympiau

         The next day was spent in meetings, and the designs for the pumps were agreed

Byddai`r pympiau`n cludo dŵr folcanig poeth i`r orsaf bŵer lle byddai`n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu trydan

         The pumps would carry hot volcanic water to the power station where it would be used to produce electricity

Gyda`r gwaith wedi`i gwblhau, cafodd Dafydd ddiwrnod yn rhydd cyn iddo hedfan adref

         With work completed, Dafydd had a day free before his flight home

Ymunodd â thaith ar fws i weld y dirwedd ysblennydd

         He joined a tour by bus to see the spectacular landscape

Dilynodd y ffordd yr arfordir, gan groesi ardaloedd enfawr o dywod a graean wedi`u golchi allan o rewlifoedd

         The road followed the coast, crossing huge areas of sand and gravel washed out from glaciers

Fe gyrhaeddon nhw`r rhewlif ei hun, ac aeth y tywysydd â nhw am dro i weld yr iâ

         They arrived at the glacier itself, and the guide took them for a walk to see the ice

Yn ôl yn ei ystafell westy y noson honno, fe wnaeth Dafydd droi’r teledu ymlaen i edrych ar y sianel newyddion

         Back in his hotel room that evening, Dafydd switched on the television to look at the news channel

Roedd ychydig yn bryderus wrth glywed bod llosgfynydd yng nghanol yr ynys wedi dechrau ffrwydro

         He was a bit worried to hear that a volcano in the centre of the island had started to errupt

Nid oedd unrhyw berygl gan nad oedd unrhyw un yn byw gerllaw, ond roedd daearegwyr yn monitro`r sefyllfa

         There was no danger as no-one lived nearby, but geologists were monitoring the situation

Bore trannoeth deffrodd ac edrych allan o ffenestr ei ystafell wely i ddarganfod bod yr awyr yn llwyd

         The next morning he woke and looked out of his bedroom window to discover that the sky was grey

Roedd y llosgfynydd wedi ffrwydro yn ystod y nos ac wedi taflu cwmwl enfawr o ludw allan

         The volcano had errupted during the night and thrown out a huge cloud of ash

Fe wnaeth droi’r newyddion teledu ymlaen a chanfod bod pob hediad o’r maes awyr wedi’i ganslo oherwydd y lludw folcanig

         He switched on the television news and found that all flights from the airport were cancelled due to the volcanic ash

Roedd yn amlwg y byddai Dafydd yn treulio mwy o amser yn Reykjavic nag yr oedd e wedi disgwyl

         It was clear that Dafydd would be spending longer in Reykjavic than he had expected

Ar ôl sawl diwrnod ailagorodd y maes awyr a llwyddodd Dafydd i archebu hediad yn ôl i Brydain

         After several days the airport reopened and Dafydd was able to book a flight back to Britain

Dychwelodd i`w swyddfa ac aeth i ymddiheuro i`r rheolwr

         He returned to his office and went to apologise to the manager

"Mae newyddion am eich llosgfynydd wedi bod ar y teledu pob dydd, felly rydyn ni`n gwybod yn union beth ddigwyddodd"

         "News of your volcano has been on television every day, so we know exactly what happened"